Cyngor Cymuned Llangrannog

Nod y wefan yw darparu adnodd gwybodaeth amhrisadwy i holl drigolion plwyf Llangrannog, sy’n cwmpasu pentrefi Pontgarreg, Blaencelyn, Pentregat a Llangrannog. 

Mae Cyngor Cymuned Llangrannog yn gweithio i wella ansawdd bywyd yn ei ardal leol. Mae’n cynrychioli etholwyr fel eu haen lywodraeth ac atebolrwydd democrataidd gyntaf, gan wneud hynny trwy arfer ystod o bwerau a dyletswyddau statudol.
e.e Mae’r Cyngor Cymuned yn ymgynhorai ar gyfer ceisiadau cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, Cyngor Sir Ceredigion. Derbynnir praesept blynyddol er mwyn ariannu gwaith y Cyngor. 

Mae’r Cyngor Cymuned yn cynnwys 10 aelod etholedig a’n Cynghorydd Sir lleol. Mae’r Cyngor yn cyflogi clerc rhan amser ar gyfer gwaith gweinyddol. Etholir Cadeirydd y Cyngor yn flynyddol o blith y cynghorwyr presennol. Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor Cymuned ar nos Lun cyntaf y mis (ac eithrio Mis Awst) yn Neuadd Goffa Pontgarreg. Mae dyddiadau, agendau a chofnodion cyfarfodydd i’w gweld ar y wefan.

Mae croeso i holl drigolion ein plwyf fynychu cyfarfodydd yn bersonol neu’n rhithiol, neu gallant gysylltu â’n cynghorwyr i godi pryderon dilys ar eu rhan.
Gallant hefyd godi eu pryderon a/neu anfon ymholiad at y clerc trwy ein tudalen “Cysylltwch â Ni”. Croesawir gohebiaeth yn y Gymraeg neu’n Saesneg.
Trwy gysylltu â ni, rydym yn addo cadw eich manylion yn ddiogel. Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu na’i ddefnyddio at ddibenion marchnata a hyrwyddo. Dim ond i gysylltu â chi’n uniongyrchol ynglyn â’ch ymholiad y byddwn yn defnyddio’ch ebost. 

Mae Cyngor Cymuned Llangrannog yn gweithio’n galed i sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei glywed, ac yr ymdrinir ag unrhyw bryderon sy’n codi yn gyflym ac yn broffesiynol. Mae ein tîm ymroddedig o gynghorwyr yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod materion yn cael eu trin yn deg ar draws y gymuned.


Hawlfraint © 2014. .