Cyngor Cymuned Llangrannog

PENTRE GȂT NEU GAPEL FFYNNON?

Saif Pentre Gât ar gyffordd ar yr A487 rhwng Plwmp a Brynhoffnant. Yn nhyb llawer nid yw’n lle o bwys wrth iddynt yrru ar hyd y briffordd i gyfeiriad Aberaeron neu Aberystwyth. Fodd bynnag, mae gan y lle hwn hanes bywiog a lliwgar, diolch yn bennaf i’r ddau fan cofiadwy sy’n ganolog yn natblygiad y pentref. Dyna beth sydd yn egluro paham fod gan bentref mor ddi-nod ddau enw!!

Lleolir adeilad Capel Ffynnon, a gaëwyd ym 1982, yn rhannol guddiedig bellach, ar sgwâr y pentref. Mae gwreiddiau addoli yn y cyffiniau hyn yn mynd yn ôl gryn dipyn, gan fod Daniel Rowland, Llangeitho wedi pregethu yn Y Gwndwn fwy nag unwaith. Yn debyg iawn i achosion cynnar yr enwadau bu raid symud o gwmpas gwahanol aelwydydd a rhannu capeli eraill am gyfnodau helaeth. Rhai o’r capeli hynny a gytunodd i rannu addoldy oedd Capel y Gwndwn gerllaw a Chapel Pensarn.

Erbyn 1849 roedd yr aelodaeth o’r farn bod angen addoldy’u hunain arnynt, ond nid gorchwyl hawdd oedd cael gafael ar lain o dir. Yn y pen draw cafwyd safle addas gan John Beynon, Ysw., Castell Newydd Emlyn, ar brydles o 99 o flynyddoedd am £1 y flwyddyn. Un amod a osodwyd ar drosglwyddo’r brydles oedd codi’r capel yn yr arddull Gothig. Ni fu’n llwyddiant ysgubol a bu raid addasu’r cynlluniau ac ailadeiladu rhannau sylweddol o’r addoldy. Law yn llaw â’r Capel codwyd Tŷ Capel hardd ynghyd â thy coets ac ystablau helaeth. Digwyddodd hyn oherwydd lleoliad canolog y pentref.

Nodwedd arall y pentref yw safle’r hen dollborth a geir gerllaw’r maes parcio. Yn ystod Terfysgoedd Beca yn y 1840’au yr oedd pob tollborth ym mha le bynnag dan fygythiad a theimlid y braw a’r dicter yn y bröydd hyn. Yn dilyn y gwrthdystio hyn, cyhoeddwyd nifer o adroddiadau swyddogol yn galw am ddulliau mwy effeithiol o wella heolydd. Ac yn raddol caewyd y tollbyrth a gorfodi cyrff cyhoeddus i fod yn gyfrifol am gynnal a chadw heolydd.

Felly pa enw y dylwn ei arddel bellach wrth gyfeirio at y pentref hwn? Mae llawer yn dibynnu ar brofiadau uniongyrchol yr unigolyn ond ni ellir gwadu pwysigrwydd y ddwy elfen yn hanes y pentref.


Hawlfraint © 2014. .