Cyngor Cymuned Llangrannog

Mae pentre Blaencelyn i’w ganfod i’r Gogledd ddwyrain o bentref Llangrannog. Mae’r afon Fothau ar un ochor ac afon Dewi Fach ar ochor arall y bryn. Mae’r ddwy nant yn cwrdd lawr yn Aberdeuddwr ym mhlwyf Llandisiliogogo cyn ymuno a’r Dewi Fawr ar eu taith i’r môr yn Cwmtydu. Mae’n debyg i Dylan Thomas gyfeirio at yr afon Dewi yn Dan y Wenallt “the singing bubbling gurgling Dewi” wedi iddo ymweld a thafarn y Crown Llwyndafydd.
Enw gwreiddiol ar bentre Blaencelyn oedd ‘Banc Elusendy’. Tybir i’r tŷ elusen fod lle mae Blodfa heddiw, sef islaw’r siop a’r Swyddfa Post presennol. Trigai gwraig o’r enw Catrin Lewis yno a byddai’n gwerthu bara a cadw’r arian mewn bwced o glo cwlwm tu allan i’r drws. Roedd efail ym mhen uchaf tŷ Blaencelyn sydd ar y sgwar, yma ganwyd 8 o blant teulu adnabyddus y Cilie. Yn y pen isaf bu tafarn y “Green Dragon”. Dai ‘Genesis’ oedd y tafarnwr ond nid oedd yn medru darllen. Cadwai Beibl o dan y cownter a cadwai cownt o beth oedd y cwsmeriaid yn ddyledus iddo drwy roi marc ar y llyfr. Bu siop dillad a llestri yma hefyd wedi dyddiau’r dafarn.
Bu efail hefyd yng Nghelyn Parc cyn y siop presennol. Ond wrth i’r tractor ddod yn fwy cyfarwydd yn y byd amaethyddol roedd llai o alw ar waith y gof a’i efail. Agorwyd Eglwys Dewi Sant yn 1895 ond fe’i gaewyd yn 2002. Mae yno fedd i forwr o Norwy wedi i’w gorff gael ei olchi i draeth Llangrannog yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Yn yr un cyfnod golchwyd darn o gorff a claddwyd y gweddillion ym mynwent Dewi Sant. Mae nifer o Gapteiniaid llongau wedi byw yn y pentref a’r ardal cyfagos a hanes hir o amaethu’n lleol gyda nifer o ffermydd erbyn hyn wedi lleihau dros y blynyddoedd diweddar.
Ar cyffiniau Blaencelyn sefir Capel y Wig a ddathlwyd 200 mlynedd yn 2013. Mae’n drist nodi fod 6 capel ac 1 eglwys wedicau yn y 50 mlynedd diwethaf yn ardal a chyffiniau Llangrannog.


Hawlfraint © 2014. .